R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru? OAQ(4)1699(FM)
2. William Graham (Dwyrain De Cymru):Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o adroddiad Sefydliad yr RAC am gyfraddau damweiniau ymysg gyrwyr ifanc? OAQ(4)1691(FM)
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithlu Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1683(FM)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru?OAQ(4)1687(FM)
5. Julie James (Gorllewin Abertawe):Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i warchod a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru?OAQ(4)1686(FM)
6. Mick Antoniw (Pontypridd):Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o berfformiad y sector adeiladu yng Nghymru?OAQ(4)1695(FM)
7. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y bydd y Prif Weinidog yn cael ei gyfarfod nesaf â Phrif Weinidog yr Alban? OAQ(4)1682(FM)W
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(4)1684(FM)
9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision aros yn rhan o’r UE i Gymru? OAQ(4)1689(FM)
10. Eluned Parrott (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am uwchgynhadledd NATO sy’n dod i Gymru eleni? OAQ(4)1690(FM)
11. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoli’r rhwydwaith cefnffyrdd yn Sir Drefaldwyn?OAQ(4)1696(FM)
12. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Gronfa Cymorth Dewisol? OAQ(4)1688(FM)
13. Sandy Mewies (Delyn):Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud ynghylch a oes modd i’r dreth ystafell wely gael effaith gadarnhaol ar strategaeth i leihau tlodi plant? OAQ(4)1698(FM)
14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):Beth arall y gall y Prif Weinidog ei wneud i gael pob hil i fyw’n gytûn yng Nghymru? OAQ(4)1694(FM)
15. Lynne Neagle (Torfaen):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiau diwygio lles yn Nhorfaen? OAQ(4)1697(FM) TYNNWYD YNOL